Llwyfan Cyfieithu ar y Pryd Cymru

Croeso i Lwyfan Cyfieithu ar y Pryd

Mae’r wefan hon yn cynnig cefnogaeth i unigolion sy’n dymuno dysgu ac ymarfer y grefft o gyfieithu ar y pryd. Dyma’r adnodd hyfforddi cyntaf o’i fath yng Nghymru ac fe’i ariannwyd trwy nawdd Llywodraeth Cymru

Mae’r llwyfan yn cartrefu deunyddiau hyfforddi sy’n cynnwys clipiau ffilm, cyfarwyddiadau proffesiynol a chronfeydd termau sy’n gysylltiedig â’r clipiau. Mae’r deunyddiau a’r cyfarwyddiadau wedi’u creu gan ymarferwyr profiadol, a’u nod yw sicrhau bod cyfieithwyr ar y pryd y dyfodol yn cael eu meithrin a’u datblygu yn unol â’r safonau proffesiynol disgwyliedig.

Mae’r clipiau yn ymwneud â’r gwahanol feysydd lle mae galw am wasanaeth cyfieithydd ar y pryd. Er mwyn cael mynediad at y clipiau, cliciwch y botwm isod.

Ewch at y Clipiau Cofrestru

Wedi i chi glicio ar y botwm ‘Ewch at y clipiau’ bydd gwahanol gategorïau neu deils yn ymddangos, e.e. Addysg, Iechyd, Amaeth, Celfyddydau, Y Gyfraith ac ati. Mae dolen hefyd at dudalen gwe-ddarlledu Cyngor Gwynedd. Dewiswch un a bydd amryw o glipiau yn ymddangos i chi ddewis ohonynt. Ar ôl i chi ddewis clip penodol, ewch i ddiwedd y clip er mwyn gweld deunydd sy’n cynnig gwybodaeth bellach i chi.

Gan amlaf ychydig o wybodaeth am gynnwys y clip sydd yno ond mae yna hefyd enghreifftiau lle ceir llawer iawn o wybodaeth, e.e. Corff Llywodraethu, Ffug Achos Llys, clip Comisiynydd y Gymraeg, Gwasanaeth Gwyl Ddewi.

Ceir yno wybodaeth (e.e. geirfa ddefnyddiol, agenda) y gellir eu hargraffu i’w cadw wrth law tra’n cyfieithu.

Mae modd recordio a chadw eich cyfieithiad ar eich peiriant yn lleol er mwyn gwrando arno ac adfyfyrio ar eich perfformiad. Pwyswch ar y botwm ‘dangos recordydd’ sydd ar y llaw dde wrth i chi edrych ar y clip. Ceisiwch roi cynnig ar gyfieithu heb wylio’r clip yn gyntaf er mwyn cael profiad sydd mor debyg â phosibl i sefyllfa go iawn. Wrth gwrs, mae’n bwysig eich bod hefyd yn rhoi ail gynnig arni er mwyn gwella a mireinio’r grefft. Pob hwyl!

Cysylltwch â ni