Llwyfan Cyfieithu ar y Pryd Cymru

Telerau ac Amodau ynghylch Defnyddio’r Gwasanaeth

Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am y wefan, a'r modd y mae'n trin eich gwybodaeth.

I gefnogi Tystysgrif Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant mewn Cyfieithu ar y Pryd, datblygwyd gwasanaeth (“y Gwasanaeth”) sydd i’w gael yma: https://cyfieithuarypryd.cymru. Mae’r Gwasanaeth yn darparu senarios a chyngor ynghylch gwaith cyfieithwyr ar y pryd o ddydd i ddydd. Trwy gofrestru i ddefnyddio’r Gwasanaeth, byddwch yn derbyn telerau defnyddio’r Gwasanaeth a’r hysbysiad preifatrwydd cysylltiedig a bydd hyn yn sail i gytundeb rhyngoch a’r Drindod Dewi Sant. Os na dderbyniwch y telerau a’r amodau hyn, peidiwch â defnyddio’r Gwasanaeth.

Gallai’r Drindod Dewi Sant ddiweddaru’r telerau hyn ar unrhyw adeg a’ch cyfrifoldeb chi yw bwrw golwg dros y telerau’n rheolaidd i sicrhau eich bod yn ymwybodol o unrhyw newidiadau.

1. Pwy all ddefnyddio'r gwasanaeth

1.1 Cedwir y clipiau fideo ar wasanaeth fideo Vimeo (gweler Polisi Preifatrwydd Vimeo i gael rhagor o wybodaeth) ac, yn unol â thelerau defnydd Vimeo, rhaid i chi fod yn 13 oed i weld y clipiau. Os nad ydych yn hŷn na 13 blwydd oed, rhaid i chi gael caniatâd gan riant neu warcheidwad cyfreithlon i ddefnyddio’r gwasanaeth. Cewch chi weld rhagor ar dudalen telerau defnydd Vimeo: https://vimeo.com/terms#who_may_use

Rhybudd: Mae gan rai o’r clipiau iaith y gallai rhai ystyried ei bod yn anweddus. Yn ogystal, mae rhai o’r clipiau’n cynnwys trafodaethau materion o natur sensitif. Achosion ffug yw’r clipiau hyn, a’r cyfranwyr yn actio rôl. Mae’r senarios yn seiliedig ar achosion go iawn y mae dehonglwyr yn eu hwynebu yn eu gwaith o ddydd i ddydd. Gwneir pob ymdrech i ddenu sylw priodol at gynnwys tebyg yn nisgrifiad ysgrifenedig y clip.

1.2 Nid yw’r Drindod Dewi Sant yn gyfrifol am gynnwys, gwirionedd, defnyddioldeb neu ddiogelwch deunydd yn y Gwasanaeth.

1.3 Nid yw’r Drindod Dewi Sant yn ategu unrhyw gyfraniad, barn, argymhelliad neu gyngor a fynegir yn y Gwasanaeth.

1.4 Gallai’r Drindod Dewi Sant atal mynediad at y Gwasanaeth neu ei gau ar unrhyw adeg yn ôl ein disgresiwn ein hunain. Os bydd y deunyddiau wedi eu dyddio, nid yw’r Drindod Dewi Sant o dan unrhyw rwymedigaeth i’w diweddaru.

1.5 Mae’r wybodaeth a gyhoeddwyd trwy’r Gwasanaeth wedi ei bwriadu yn unig at ddiben darparu gwybodaeth gyffredinol ac ni fwriedir iddi fod yn gyngor y gellir dibynnu arno. Nid yw’r Drindod Dewi Sant yn gwarantu bod unrhyw ddeunyddiau sydd ar gael ar y Gwasanaeth yn gywir neu yn rhydd o wallau a gwadwn bob atebolrwydd a chyfrifoldeb sy’n codi o unrhyw ddibyniaeth ar y Gwasanaeth gennych chi neu unrhyw un a allai gael gwybod am unrhyw ran o gynnwys y Gwasanaeth.

2. Caniatâd i ddefnyddio’r gwasanaeth

2.1 Unwaith y byddwch wedi cofrestru i ddefnyddio’r Gwasanaeth, rydych yn cytuno i ddefnyddio’r gwasanaeth at ddibenion cyfreithlon yn unig mewn modd nad yw’n groes i hawliau ac yn cyfyngu ar ddefnydd neu fwynhad unrhyw berson arall o’r gwasanaethau ac yn unol â’r telerau a’r amodau.

2.2 Cewch chi ddefnyddio’r Gwasanaeth at eich dibenion personol, anfasnachol.} Mae’r caniatâd yn bersonol i chi’n unigol, a gwaharddir unrhyw ddefnydd masnachol o’r gwasanaeth.

2.3 Nid yw’r Drindod Dewi Sant yn derbyn unrhyw atebolrwydd am argaeledd y gwasanaeth.

3. Ymwadiad

Darperir y Gwasanaeth ar sail “FEL Y BO AR GAEL” heb unrhyw gynrychiolaeth na gwarant o unrhyw fath. I’r eithaf a ddarperir gan y gyfraith berthnasol, mae’r Drindod Dewi Sant yn ymwrthod â phob gwarant, amod ac unrhyw delerau o unrhyw fath, boed yn amlwg neu ymhlyg, mewn cysylltiad â’r Gwasanaeth a’ch defnydd ar y Gwasanaeth.

4. Cyfyngiad ar Atebolrwydd

Ar eich menter eich hun yn llwyr y byddwch yn defnyddio’r Gwasanaeth ac i’r eithaf a ddarperir gan y gyfraith, mae’r Drindod Dewi Sant yn eithrio’n benodol unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled uniongyrchol, anuniongyrchol, ddilynol, colled neu ddifrod enghreifftiol sy’n deillio o’r Gwasanaeth neu yn sgil ei ddefnyddio. Nid yw hyn yn effeithio ar atebolrwydd Y Drindod Dewi Sant ar gyfer marwolaeth neu anaf personol sy’n deillio o esgeulustod ar ein rhan, camliwio twyllodrus neu gamliwio ynghylch mater sylfaenol. Ni fydd Y Drindod Dewi Sant yn gyfrifol am unrhyw un o’r telerau hyn a dorrir oherwydd amgylchiadau sydd y tu hwnt i’n rheolaeth.

5. Firysau, Hacio a Throseddau Eraill

5.1 Rhaid i chi beidio â chamddefnyddio’r Gwasanaeth trwy gyflwyno, cyfleu neu anfon unrhyw firysau, ffeil lygredig, cancelbot, ceffyl Caerdroea, mwydyn, bom amser neu resymeg, cofnodydd trawiadau bysellau, ysbïwedd, meddalwedd hysbysebu neu ddeunydd arall a ddyluniwyd i effeithio’n andwyol ar weithrediad y Gwasanaeth.

5.2 Mae unrhyw achos sy’n torri’r ddarpariaeth hon yn drosedd o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990, a rhoddir gwybod amdano i’r awdurdodau perthnasol ar gyfer gorfodi’r gyfraith. Os torrir y telerau hyn, daw eich defnydd o’r Gwasanaeth i ben ar unwaith.

6. Cyfyngiadau

6.1 Rhoddir caniatâd i ddefnyddio’r gwasanaeth ar y ddealltwriaeth mai dim ond trwy’r platfform a ddarperir y gwylir y clipiau, https://cyfieithuarypryd.cymru Amod ar gyfer defnyddio’r Gwasanaeth yw na ddylech lawrlwytho’r clipiau at ddefnydd arall heb ganiatâd penodol gan Y Drindod Dewi Sant i wneud hynny.

6.2 O dan unrhyw amodau, ni ddylech olygu ymhellach, atgynhyrchu, gwerthu neu rannu’r deunyddiau – clipiau, neu ddeunydd ysgrifenedig ychwanegol – ymhellach, neu ymddwyn mewn modd sy’n groes i bolisi disgyblu myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant (ar gael yn:https://www.uwtsd.ac.uk/media/uwtsd-website/content-assets/documents/strategies-policies/Student-Disciplinary-Procedure-13-11-18-(correct-versions).pdf) neu mewn modd sy’n dwyn gwarth ar y Brifysgol.

7. Dolenni at Wasanaethau

7.1 Nid oes gan Y Drindod Dewi Sant unrhyw reolaeth ar gynnwys nac argaeledd safleoedd trydydd parti y gallech fanteisio arnynt ac mae’r dolenni hyn wedi eu darparu er gwybodaeth yn unig. Os byddwch yn ymweld ag unrhyw safle cysylltiedig, rydych yn gwneud hynny ar eich menter eich hun, a’ch cyfrifoldeb chi yw cymryd yr holl gamau amddiffynnol rhag firysau ac unrhyw elfennau dinistriol eraill.

7.2 Nid yw’r Drindod Dewi Sant yn ategu nac yn gyfrifol nac yn atebol (boed yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) am unrhyw gynhyrchion, gwasanaethau, barn a fynegwyd neu wybodaeth neu sydd ar gael ar wefannau trydydd parti (gan gynnwys heb gyfyngiad taliad am unrhyw gynhyrchion neu wasanaethau a darparu’r rhain) neu am unrhyw ddifrod, colled neu drosedd a achoswyd gan neu mewn perthynas â’ch mynediad at y safleoedd trydydd parti hyn ac unrhyw wasanaethau sydd ar gael, a’ch defnydd arnynt. Mater yn unig rhyngoch chi a darparwr perthnasol y safle hwnnw a/neu unrhyw wasanaeth perthnasol yw unrhyw delerau, amodau, gwarantiadau neu sylwadau sy’n gysylltiedig ag unrhyw ymdrin ar safleoedd trydydd parti.

8. Preifatrwydd

Mae’r Drindod Dewi Sant yn cymryd eich preifatrwydd o ddifri ac mae eich hawliau preifatrwydd wedi eu hamlinellu yn ein Polisi Preifatrwydd sy’n rhan o’r cytundeb hwn. Mae’r ddogfen hon yn nodi sut y mae’r Drindod Dewi Sant yn cydymffurfio â darpariaethau’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol a Deddf Diogelu Data 2018, a pha ddata a gasglwyd gan ddefnyddwyr y Gwasanaeth ac at ba ddibenion. Trwy ddefnyddio’r Gwasanaeth, rydych yn cydsynio â chasglu a phrosesu’r data hyn ac rydych yn addo bod y data a ddarperir gennych yn gywir.

9. Cofrestru

I ddefnyddio’r Gwasanaeth, mae angen i chi gofrestru. I wneud hynny, disgwylir i chi ddarparu enw a chyfeiriad e-bost a chreu cyfrinair. Defnyddia’r Drindod Dewi Sant y wybodaeth i benderfynu lefel eich mynediad i’r Gwasanaeth. Mae mynediad i ddewis o’r clipiau wedi ei gyfyngu i fyfyrwyr y Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Cyfieithu ar y Pryd yn unig.

Mae gennych gyfrifoldeb am eich cyfrif, ac am sicrhau nad oes unrhyw weithgarwch gwaharddedig yn digwydd trwy ddefnyddio’r cyfrif hwnnw. Dylech gysylltu â’r Drindod Dewi Sant yn syth os oes unrhyw amheuaeth am ddefnyddio eich cyfrif heb ganiatâd.

10. Cyfnod defnydd

Ar ôl creu cyfrif, rhoddir mynediad i’r gwasanaeth sylfaenol tra bydd y defnyddiwr wedi ei gofrestru gyda’r Gwasanaeth. Caiff defnyddwyr y Gwasanaeth sydd â mynediad llawn – sef y rhai sy’n dilyn cwrs y Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Cyfieithu ar y Pryd –fanteisio arno gydol cyfnod eu hastudiaeth, ac am gyfnod o 6 mis yn dilyn dyfarniad y Bwrdd Arholi.

Cewch ddileu eich cyfrif ar unrhyw adeg, yn yr adran Proffil. Cadwn yr hawl i’ch atal rhag defnyddio’r Gwasanaeth os bydd Y Drindod Dewi Sant o’r farn eich bod wedi torri’r telerau a’r amodau hyn mewn unrhyw ffordd.

11. Hawlfraint

Oni bai y nodir fel arall, mae’r holl ddeunydd a gyhoeddir ar www.cyfieithuarypryd.cymru o dan hawlfraint Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Cedwir pob hawl.

12. Hawl diddymu

Os penderfynir bod unrhyw un o’r telerau hyn yn anghyfreithlon, yn annilys neu fel arall yn amhosibl eu gorfodi oherwydd y cyfreithiau mewn unrhyw wladwriaeth neu wlad lle bwriadwyd i’r Telerau hyn fod yn effeithiol, wedyn i’r graddau ac oddi mewn i’r awdurdodaeth lle mae’r telerau hynny’n anghyfreithlon, annilys neu’n amhosibl eu gorfodi, cânt eu diddymu a’u dileu o’r Telerau hyn a bydd y Telerau sy’n parhau’n aros, yn parhau mewn grym yn llawn ac yn dal i rwymo ac i’w gorfodi.

13. Awdurdodaeth

Llywodraethir a dehonglir y Telerau yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr.

14. Trafodaethau

Bydd unrhyw drafodaeth sy’n deillio o’r Gwasanaeth neu sy’n gysylltiedig ag ef yn ddarostyngedig i awdurdodaeth llysoedd Cymru a Lloegr.