Llwyfan Cyfieithu ar y Pryd Cymru

Diogelu Data Gwefan Llwyfan Cyfieithu ar y Pryd Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am y wefan, a'r modd y mae'n trin eich gwybodaeth.

1. Cyflwyniad

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cefnogi camau i ddiogelu preifatrwydd ar y rhyngrwyd yn unol â gofynion deddfwriaeth y DU gan gydnabod bod preifatrwydd personol yn fater pwysig.

Nod y polisi preifatrwydd hwn ar gyfer y wefan yw rhoi gwybodaeth i chi ynglŷn â’r modd y mae’r Drindod Dewi Sant yn casglu ac yn prosesu’ch data personol drwy’ch defnydd o’r wefan hon, gan gynnwys unrhyw ddata y byddwch yn eu darparu drwy’r wefan hon pan fyddwch yn cofrestru.

Dylid darllen y polisi penodol hwn ar y cyd â Pholisi Diogelu Data’r Brifysgol sydd ar gael yn https://www.uwtsd.ac.uk/media/uwtsd-website/content-assets/documents/strategies-policies/2.0-Data-Protection-Policy.pdf. Mae dyletswydd gyfreithiol ar y Drindod Dewi Sant i gydymffurfio â darpariaethau’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a ddaeth i rym ar 25 Mai 2018 a Deddf Diogelu Data 2018 (sef gyda’i gilydd “y ddeddfwriaeth”).

Prosesir y manylion personol a gesglir trwy ein gwefan Llwyfan Cyfieithu ar y Pryd Cymru ac a ddarperir gennych chi, y defnyddiwr, yn unol â’r ddeddfwriaeth.

2. Y data a gasglwn amdanoch drwy’r wefan

  • Mae Data Hunaniaeth yn cynnwys: enw cyntaf, a chyfenw.
  • Mae Data Cysylltu yn cynnwys cyfeiriad e-bost.

Hefyd rydym yn casglu, defnyddio ac yn rhannu Data Cyfanredol megis data ystadegol neu ddemograffig at unrhyw ddiben. Gallai Data Cyfanredol ddeillio o’ch data personol ond nis ystyrir yn ddata personol yn gyfreithiol oherwydd na fydd y data hyn yn datgelu pwy ydych yn uniongyrchol nac yn anuniongyrchol. Er enghraifft, efallai byddwn yn cydgasglu’ch Data o ran Defnyddio’r wefan er mwyn cyfrifo canran y defnyddwyr sy’n cyrchu nodwedd benodol ar y wefan. Fodd bynnag, os byddwn yn cyfuno neu’n cysylltu Data Cyfanredol â’ch data personol mewn modd sy’n golygu y gellir eich adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, byddwn yn trin y data cyfunol yn ddata personol a ddefnyddir yn unol â’r polisi preifatrwydd hwn.

Nid ydym yn casglu unrhyw Gategorïau Arbennig o Ddata Personol amdanoch (mae hyn yn cynnwys manylion am eich hil neu ethnigrwydd, credoau crefyddol neu athronyddol, bywyd rhywiol, cyfeiriadedd rhywiol, barn wleidyddol, aelodaeth o undebau llafur, gwybodaeth am eich iechyd a data genetig a biometrig). Nid ydym chwaith yn casglu unrhyw wybodaeth am euogfarnau troseddol a throseddau.

3. Sut mae’ch data personol yn cael eu casglu?

Rydym yn defnyddio dulliau gwahanol i gasglu data oddi wrthych ac amdanoch yn cynnwys drwy’r canlynol:

  • Rhyngweithio uniongyrchol. Efallai y rhoddwch eich Data Hunaniaeth a Data Cysylltu i ni drwy lenwi ffurflenni neu drwy gyfathrebu â ni drwy’r post, ffôn, e-bost neu fel arall. Mae hyn yn cynnwys data personol a roddwch wrth wneud y canlynol:

    • gwneud cais am ein cynhyrchion neu ein gwasanaethau;
    • creu cyfrif ar ein gwefan;
    • tanysgrifio i’n gwasanaeth neu ein cyhoeddiadau;
    • gofyn am gael deunydd marchnata wedi’i anfon atoch; rhoi adborth i ni neu gysylltu â ni.
  • Technolegau neu ryngweithio wedi’u hawtomeiddio. Wrth i chi ryngweithio â’n gwefan, byddwn yn casglu Data Technegol yn awtomatig am eich offer, a’ch camau a’ch patrymau pori. Rydym yn casglu’r data personol hyn drwy ddefnyddio cwcis [cofnodion gweinydd] a thechnolegau tebyg. [Efallai y byddwn yn derbyn Data Technegol amdanoch hefyd os ewch i wefannau eraill gan ddefnyddio ein cwcis.] Gweler ein polisi ynghylch cwcis: https://www.uwtsd.ac.uk/privacy-and-cookie-policy/ i gael manylion pellach.

    • Byddwn yn derbyn data personol amdanoch gan nifer o drydydd partïon [a ffynonellau cyhoeddus] fel y’i nodir isod:
    • Data Technegol gan y partïon canlynol: darparwyr dadansoddiadau [megis Google a leolir y tu allan i’r UE].

4. Sut rydym yn defnyddio’ch data personol

Dim ond lle bo’r gyfraith yn caniatáu i ni wneud hynny y byddwn yn defnyddio eich data personol. Yn fwyaf cyffredin, byddwn yn defnyddio eich data personol yn yr amgylchiadau a ganlyn:

  • Lle bo angen inni berfformio’r contract rydym ar fin ei lunio gyda chi neu wedi’i lunio gyda chi;
  • Lle bo’n rhaid er mwyn ein buddiannau dilys (neu fuddiannau dilys trydydd parti) ac nid yw’ch buddiannau a’ch hawliau sylfaenol yn drech na’r buddiannau hynny;
  • Lle bo angen i ni gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol.

Cynhwysir y mathau o sail gyfreithlon y byddwn yn dibynnu arnynt i brosesu’ch data personol yn y ddogfen hon https://ico.org.uk/for-organisations/guide-to-data-protection/guide-to-the-general-data-protection-regulation-gdpr/lawful-basis-for-processing/

5. At ba ddibenion y defnyddiwn eich data personol

Rydym wedi nodi isod, ar fformat tabl, ddisgrifiad o’r holl ffyrdd rydym yn bwriadu defnyddio’ch data personol, ac ar ba seiliau cyfreithiol byddwn yn dibynnu i wneud hynny. Hefyd rydym wedi dynodi beth yw ein buddiannau dilys lle bo’n briodol.

Sylwer efallai y byddwn yn prosesu’ch data personol at fwy nag un sail gyfreithlon, yn amodol ar at ba ddiben penodol rydym yn defnyddio’ch data. Cysylltwch â ni os oes arnoch angen manylion am y sail gyfreithiol benodol rydym yn dibynnu arni i brosesu’ch data personol lle nodir mwy nag un sail yn y tabl isod.

Diben/Gweithgaredd Math o ddata Sail gyfreithlon ar gyfer prosesu’n cynnwys sail buddiant dilys
Eich cofrestru’n gwsmer newydd (a) Hunaniaeth
(b) Cysylltu
Perfformio contract gyda chi
Rheoli ein perthynas gyda chi a fydd yn cynnwys:
(a) Rhoi gwybod i chi am newidiadau yn ein telerau neu ein polisi preifatrwydd
(b) Gofyn i chi adael adolygiad neu gymryd arolwg
(a) Hunaniaeth
(b) Cysylltu
(a) Perfformio contract gyda chi
(b) Yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol
(c) Yn angenrheidiol er mwyn ein buddiannau dilys (cadw ein cofnodion yn gyfredol ac astudio sut mae cwsmeriaid yn defnyddio ein cynhyrchion/gwasanaethau)
Gweinyddu a diogelu ein busnes a’r wefan hon (yn cynnwys datrys problemau, dadansoddi data, profi, cynnal a chadw’r system, cefnogaeth, adroddiadau a lletya data) (a) Hunaniaeth
(b) Cysylltu
(c) Technegol
(a) Yn angenrheidiol er mwyn ein buddiannau dilys (ar gyfer rhedeg ein busnes, darparu gwasanaethau gweinyddol a TG, diogelwch y rhwydwaith, atal twyll ac yng nghyd-destun aildrefnu busnes neu ymarfer ailstrwythuro grŵp)
(b) Yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol
Cyflwyno cynnwys a hysbysebion perthnasol i chi ar y wefan a mesur neu ddeall effeithiolrwydd yr hysbysebu rydym yn ei gyflwyno i chi (a) Hunaniaeth
(b) Cysylltu
Yn angenrheidiol er mwyn ein buddiannau dilys (astudio sut mae cwsmeriaid yn defnyddio ein cynhyrchion/gwasanaethau, eu datblygu, tyfu ein busnes a llywio ein strategaeth farchnata)
Defnyddio dadansoddiadau data i wella ein gwefan, cynhyrchion/gwasanaethau, marchnata, perthnasoedd a phrofiadau cwsmeriaid (a) Technegol
(b) Defnydd
Yn angenrheidiol er mwyn ein buddiannau dilys (diffinio mathau o gwsmeriaid ar gyfer ein cynhyrchion a’n gwasanaethau, cadw ein gwefan yn gyfredol ac yn berthnasol, datblygu ein busnes a llywio ein strategaeth farchnata)
Gwneud awgrymiadau ac argymhellion i chi am nwyddau neu wasanaethau a allai fod o ddiddordeb ichi (a) Hunaniaeth
(b) Cysylltu
(c) Technegol
(d) Defnydd
(e) Proffil
(f) Marchnata a Chyfathrebu
Yn angenrheidiol er mwyn ein buddiannau dilys (datblygu ein cynhyrchion/gwasanaethau a thyfu ein busnes)

6. Dolenni â thrydydd partïon

Mae’r wefan hon yn cynnwys dolenni â gwefannau trydydd partïon megis Vimeo, Senedd.tv ac YouTube. Mae’n gwneud defnydd o’r gwasanaethau mewnblannu a gynigir gan wefannau’r trydydd partïon hynny, yn ogystal ag ategion a gwasanaethau cysylltiedig ychwanegol. Gallai clicio ar y dolenni hynny neu alluogi’r cysylltiadau hynny ganiatáu i drydydd partïon gasglu neu rannu data amdanoch. Nid ydym yn rheoli’r gwefannau hyn gan drydydd partïon ac nid ydym yn gyfrifol am eu datganiadau preifatrwydd. Pan fyddwch yn ymadael â’n gwefan, fe’ch anogwn i ddarllen polisi preifatrwydd pob gwefan yr ymwelwch â hi. Mae’r materion isod yn berthnasol:

Y Clipiau Fideo:

Clipiau a letyir ar Vimeo: Hwylusir mynediad i’r clipiau a letyir ar Vimeo gan Optimwm Ltd. Nid yw Optimwm Ltd yn casglu unrhyw ddata ond am y nifer o weithiau y caiff clipiau eu gwylio. I weld polisi preifatrwydd Vimeo, ewch i: https://vimeo.com/privacy

Clipiau a letyir ar Senedd.tv: Hwylusir mynediad i’r clipiau a letyir ar Senedd.tv gan Senedd.tv. I weld polisi preifatrwydd Senedd.tv, ewch i: http://www.assembly.wales/cy/help/privacy/Pages/privacy.aspx I weld polisi Senedd.tv ynghylch cwcis, ewch i: http://www.assembly.wales/cy/help/Pages/cookies.aspx

Clipiau a letyir ar YouTube: Mae clipiau a letyir ar YouTube yn eiddo ac yn gyfrifoldeb i’r cyfrif a’u lanlwythodd yn wreiddiol. I weld polisi preifatrwydd YouTube (Google), ewch i: https://policies.google.com/privacy?hl=en

Dolenni â chynnwys trydydd partïon:

Wrth ddefnyddio gwefan Llwyfan Cyfieithu ar y Pryd Cymru, fe welwch ddolenni â gwefannau allanol gan drydydd partïon. Ni all y Drindod Dewi Sant warantu gwasanaeth, ansawdd neu argaeledd yr adnoddau allanol hynny. Rydym yn defnyddio ymdrechion rhesymol i wirio pob dolen er mwyn sicrhau ei bod yn parhau i fod ar gael, ond ni allwn dracio pob newid yn y dolenni a ddefnyddir o fewn y Wefan. Felly, nid yw’r Drindod Dewi Sant yn gyfrifol am gynnwys a chywirdeb unrhyw adnodd gan drydydd parti.

Pan ddefnyddiwch adnodd gan drydydd parti, byddwch yn rhwym gan ei delerau a’i drwyddedau ac ni fyddwch bellach yn cael eich diogelu gan ein polisi preifatrwydd na’n harferion diogelwch, a all fod yn wahanol i bolisi neu arferion neu delerau eraill y trydydd parti. Dylech ymgyfarwyddo ag unrhyw drwydded neu delerau defnyddio adnodd y trydydd parti, a’i bolisi preifatrwydd a’i arferion diogelwch a fydd yn rheoli’ch defnydd o’r adnodd hwnnw.

Mynediad Trydydd Partïon i Ddata

Mae’n ofynnol dan GDPR ein bod yn datgelu gwerthwyr trydydd parti sy’n rhyngweithio â’ch data. Rydym yn defnyddio Cloudflare i ddarparu storio (er mwyn cynyddu cyflymdra a’r gallu i ddefnyddio’r wefan) a mesurau diogelwch ychwanegol. Er mwyn cyflawni’i swyddogaeth, bydd Cloudflare yn derbyn traffig a amgriptiwyd yn ddiogel a allai gynnwys data rhannol a ddarperir gennych. I weld polisi GDPR Cloudflare, ewch i: https://www.cloudflare.com/gdpr/introduction/

7. Google Analytics a Chwcis

Mae Google Analytics yn defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth am y modd y mae ymwelwyr yn defnyddio’r wefan. Mae’r Drindod Dewi Sant yn defnyddio’r wybodaeth hon i lunio adroddiadau ac i helpu i wella’r wefan. Mae enghreifftiau o wybodaeth a gesglir yn cynnwys nifer yr ymwelwyr â’r wefan, y ddolen a ddefnyddir gan ymwelwyr i gyrraedd y wefan, a’r tudalennau maent yn ymweld â nhw yn ystod eu hymweliad.

Mae polisi cwcis y Drindod Dewi Sant ar gael yma: https://www.uwtsd.ac.uk/privacy-and-cookie-policy/

Cesglir a chedwir y wybodaeth yn ddienw. Ewch i bolisi preifatrwydd Google i gael gwybodaeth ychwanegol am Google Analytics. Mae gan Google ychwanegyn porwyr sy’n atal Google Analytics rhag casglu data: https://tools.google.com/dlpage/gaoptout

8. Newid diben

Dim ond at y dibenion y bu i ni eu casglu y bydd y Drindod Dewi Sant yn defnyddio eich data personol, oni bai ein bod yn ystyried yn rhesymol fod angen i ni eu defnyddio am reswm arall a bod y rheswm hwnnw yn gydnaws â’r diben gwreiddiol. Os hoffech gael esboniad ynghylch y modd y mae’r prosesu at y diben newydd yn gydnaws â’r diben gwreiddiol, cysylltwch â ni yn [email protected]

Os bydd angen i ni ddefnyddio’ch data personol at ddiben nad yw’n gysylltiedig, byddwn yn eich hysbysu ac yn esbonio’r sail gyfreithiol sy’n caniatáu i ni wneud hynny.

Sylwch efallai y byddwn yn prosesu’ch data personol heb yn wybod i chi a heb eich cydsyniad, mewn cydymffurfiaeth â’r rheolau uchod, lle bo gofyn am hyn neu y caniateir hyn gan y gyfraith.

Mae’n bosibl y bydd yn ofynnol i’r Drindod Dewi Sant rannu data â Llywodraeth Cymru, sydd wedi cyllido datblygu’r wefan hon, at ddibenion monitro ystadegau defnyddio. Bydd unrhyw ddata a rennir â Llywodraeth Cymru yn gyfanredol ac yn ddienw bob tro.

Nid ydym yn trosglwyddo’ch data personol y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

9. Diogelwch data

Rydym wedi rhoi mesurau diogelwch priodol ar waith i atal eich data personol rhag cael eu colli ar ddamwain, eu defnyddio neu eu cyrchu mewn modd heb awdurdod, eu haddasu neu eu datgelu. Yn ogystal, byddwn yn cyfyngu mynediad at eich data personol i’r cyflogeion, asiantau, contractwyr a thrydydd partïon eraill hynny sydd ag angen busnes i wybod. Dim ond ar ein cyfarwyddyd ni y byddant yn prosesu eich data personol, ac maent ynghlwm wrth ddyletswydd cyfrinachedd.

Er mwyn asesu diogelwch eich data, rydym yn defnyddio mesurau cryptograffeg cyfredol wrth greu, gwirio neu storio’r cyfrinair a ddarparwyd gennych. Er mwyn cydymffurfio â GDPR, rydym yn rhoi’r gallu i chi ailosod eich cyfrinair. Gallwch wneud hyn â llaw gynifer o weithiau ag sydd angen, o’ch tudalen broffil (os ydych wedi mewngofnodi i’r wefan) neu o’r dudalen fewngofnodi (os ydych wedi anghofio’ch cyfrinair).

Rydym wedi cymryd camau i liniaru unrhyw ymgeisiau maleisus posibl i gael mynediad i’n gweinyddion (lle caiff eich data eu storio), ac yn gwneud copïau wrth gefn o ddata’n rheolaidd er mwyn sicrhau nad yw’n mynd ar goll.

Byddwn yn sicrhau bod traffig ein gwefan yn cael ei gwmpasu gan dystysgrif SSL briodol a gweithredol, sy’n golygu bod yr holl draffig a anfonir rhwng eich dyfais, ein gweinydd, ac unrhyw drydydd parti perthnasol yn cael ei amgryptio.

Rydym wedi rhoi gweithdrefnau ar waith i ymdrin ag unrhyw fynediad diawdurdod a amheuir at ddata personol a byddwn yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol am fynediad diawdurdod lle mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.

10. Marchnata

Hoffem anfon manylion atoch drwy e-bost ar gyfer cyrsiau cyfieithu eraill a gynigir gan y Drindod Dewi Sant. Byddwn yn sicrhau bod unrhyw ddeunydd a anfonir atoch yn berthnasol. Drwy gofrestru i ddefnyddio’r wefan hon ni fyddwch yn derbyn deunyddiau marchnata yn ddiofyn. Gwasanaeth optio i mewn yw hwn a reolir drwy’r dudalen Broffil. Drwy optio i dderbyn deunyddiau marchnata, ymdrinnir â’ch manylion yn unol â’r polisi preifatrwydd hwn.

Ni chaiff eich manylion eu trosglwyddo i unrhyw drydydd parti dan unrhyw amgylchiadau. Rydym weithiau’n defnyddio gwasanaethau, Mailchimp yn benodol, i greu a defnyddio Rhestrau Dosbarthu. Defnyddir unrhyw Wybodaeth Bersonol a gesglir neu a dderbynnir gan Mailchimp at ddibenion busnes penodol a chyfreithlon yn unig, fel y’i nodir yn eu Polisi Preifatrwydd: https://mailchimp.com/legal/privacy/#3._Privacy_for_Contacts

11. Eich Hawliau Cyfreithiol

Mae gennych yr hawl i:

Wneud cais am fynediad i’ch data personol (a elwir yn gyffredin yn “gais am fynediad at ddata gan y testun”). Mae hyn yn eich galluogi i gael copi o’r data personol sydd gennym amdanoch chi ac i wirio ein bod yn eu prosesu’n gyfreithlon.

Gwneud cais i gywiro’r data personol sydd gennym amdanoch chi. Mae hyn yn eich galluogi i gael unrhyw ddata anghyflawn neu anghywir sydd gennym amdanoch wedi’u cywiro, er gall fod angen i ni wirio cywirdeb y data newydd a ddarparwch ar ein cyfer. Gallwch wneud hyn i raddau (sef yr enw a’r cyfeiriad e-bost a gofnodir ar eich cyfer) ar eich tudalen broffil.

Gwneud cais i ddileu eich data personol. Mae hyn yn eich galluogi chi i ofyn i ni ddileu neu gael gwared â data personol lle nad oes rheswm da i ni barhau i’w prosesu. Hefyd mae gennych yr hawl i ofyn i ni ddileu neu gael gwared â’ch data personol lle rydych wedi arfer eich hawl i wrthwynebu prosesu yn llwyddiannus (gweler isod), lle rydym efallai wedi prosesu’ch gwybodaeth yn anghyfreithlon neu lle mae’n ofynnol i ni ddileu eich data personol er mwyn cydymffurfio â chyfraith leol. Sylwer, fodd bynnag, efallai na fyddwn bob amser yn gallu cydymffurfio â’ch cais i ddileu am resymau cyfreithiol penodol y rhoddir gwybod i chi amdanynt, os ydy’n berthnasol, ar adeg eich cais. Gallwch ddileu’ch cyfrif (ac felly ein hatal rhag prosesu’ch data ymhellach) o’ch tudalen broffil.

Gwrthwynebu prosesu eich data personol lle rydym yn dibynnu ar fuddiant dilys (neu fuddiannau dilys trydydd parti) ac mae rhywbeth ynghylch eich sefyllfa benodol sy’n gwneud ichi eisiau gwrthwynebu’r prosesu ar y sail hon gan eich bod yn teimlo ei bod yn effeithio ar eich hawliau a’ch rhyddid sylfaenol. Mae gennych hefyd yr hawl i wrthwynebu lle rydym yn prosesu eich data personol at ddibenion marchnata uniongyrchol. Mewn rhai achosion, efallai y byddwn yn dangos bod gennym resymau cyfreithlon argyhoeddiadol i brosesu’ch gwybodaeth sy’n drech na’ch hawliau a’ch rhyddid.

Gwneud cais i gyfyngu ar brosesu eich data personol. Mae hyn yn eich galluogi i ofyn i ni atal prosesu’ch data personol yn y senarios canlynol:

  • Os ydych eisiau i ni gadarnhau cywirdeb y data;
  • Lle mae ein defnydd o’r data yn anghyfreithlon, ond nid ydych eisiau i ni eu dileu;
  • Lle mae arnoch angen i ni gadw’r data hyd yn oed os nad oes eu hangen arnom bellach gan fod angen i chi sefydlu, arfer neu amddiffyn ceisiadau cyfreithiol;
  • Rydych wedi gwrthwynebu ein bod yn defnyddio’ch data, ond mae angen i ni wirio a oes gennym seiliau cyfreithlon dros eu defnyddio sy’n drech na hynny.

Gwneud cais am drosglwyddo’ch data personol i chi neu i drydydd parti. Byddwn yn darparu ar eich cyfer, neu ar gyfer trydydd parti o’ch dewis, eich data personol mewn fformat strwythuredig, cyffredin y gall peiriant ei ddefnyddio. Sylwer bod yr hawl hon yn berthnasol yn unig i wybodaeth wedi’i hawtomeiddio y darparwyd cydsyniad gennych yn y lle cyntaf i ni ei defnyddio neu lle rydym wedi defnyddio’r wybodaeth i berfformio contract gyda chi.

Tynnu cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg lle rydym yn dibynnu ar gydsyniad i brosesu’ch data personol. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn effeithio ar gyfreithlondeb unrhyw brosesu a gyflawnwyd cyn i chi dynnu’ch cydsyniad yn ôl. Os tynnwch eich cydsyniad yn ôl, efallai na fyddwn yn gallu darparu rhai cynhyrchion neu wasanaethau ar eich cyfer. Rhoddwn wybod i chi os mai dyma’r achos ar yr adeg y tynnwch eich cydsyniad yn ôl.


Mae Swyddog Diogelu Data’r Drindod Dewi Sant yn gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth â GDPR, Deddf Diogelu Data 2018 a’r polisi hwn. Deiliad y swydd honno ar hyn o bryd yw Paul Osborne: [email protected]. Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau ynghylch gweithredu’r polisi hwn neu unrhyw bryderon na ddilynwyd y polisi at Swyddog Diogelu Data Grŵp y Drindod Dewi Sant yn y lle cyntaf.