Llwyfan Cyfieithu ar y Pryd Cymru

Cwestiynau Cyflym

Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am y wefan, a'r modd y mae'n trin eich gwybodaeth.

1. Sut ydw i’n gwylio clip?
Er mwyn defnyddio’r llwyfan, mae angen i chi gofrestru. Gwneir hynny trwy nodi cyfeiriad e-bost a chyfrinair ac yna fe allwch wylio ystod o glipiau byr (5 munud o hyd) sy’n agored i bawb.
2. Sut medraf gael mynediad i ragor o glipiau?

Rhoddir mynediad at yr holl glipiau sydd ar y llwyfan i’r rhai sy’n dilyn hyfforddiant gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, yn benodol iawn, myfyrwyr sy’n dilyn y Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Cyfieithu ar y Pryd.

Os hoffech dderbyn rhagor o wybodaeth gallwch ymweld â gwefan y Brifysgol: https://www.uwtsd.ac.uk/cy/cyfieithu-ar-y-pryd

Neu, trwy ddefnyddio’r ffurflen cysylltu ‘Cysylltwch â Ni’ sydd ar gael o’r ddewislen ar dop y sgrin.

Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau gyda’r Brifysgol, cewch fynediad i’r llwyfan am gyfnod byr wedyn, ond cynigir mynediad i’r holl ddeunydd am gyfnod penodol yn unig. Gweler ‘Telerau ac Amodau ynghylch Defnyddio’r Gwasanaeth’ am fwy o wybodaeth.

Gallwch weld y lefel mynediad at adnoddau sydd gennych chi, a’r cyfnod mynediad at yr holl adnoddau (os yn berthnasol) yn yr adran ‘Proffil’ o’r ddewislen.

3. Beth sy’n digwydd i fy manylion personol?
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn gorfod cydymffurfio â’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol a Deddf Diogelu Data 2018. Bydd yr ychydig fanylion personol a gesglir trwy ein gwefan ac a ddarperir gennych chi, y defnyddiwr, yn cael eu prosesu yn unol â'r ddeddfwriaeth. Ni fyddwn yn gwerthu, trwyddedu nac yn masnachu unrhyw wybodaeth bersonol i eraill. Nid ydym yn darparu gwybodaeth bersonol i gwmnïau marchnata uniongyrchol neu sefydliadau o'r fath. Trwy ddefnyddio’r Gwasanaeth, rydych yn cydsynio â chasglu a phrosesu’r data hyn ac rydych yn addo bod y data a ddarperir gennych yn gywir. Gweler ein Polisi Preifatrwydd, a Telerau ac Amodau ynghylch Defnyddio’r Gwasanaeth’ am fwy o wybodaeth.
4. Sut mae newid neu ddileu fy manylion?
Wrth fynd i’r adran ‘Proffil’ yn y ddewislen gallwch newid eich manylion: enw, cyfeiriad e-bost, a chyfrinair; a rheoli eich dewisiadau marchnata. Gallwch hefyd dewis dileu eich proffil. Os dewiswch chi ddileu eich proffil, caiff unrhyw wybodaeth sydd wedi’i gadw, er enghraifft nodiadau, ei golli.
5. Os wyf yn rhoi caniatâd i chi anfon deunyddiau marchnata, beth fyddaf yn ei dderbyn?
O dderbyn eich caniatâd i anfon deunyddiau marchnata atoch chi, byddwn ond yn darparu gwybodaeth am bethau sydd, yn ein tŷb ni, yn gysylltiedig â’r maes cyfieithu ar y pryd ac o ddidordeb posib. Ni fyddwn yn gwerthu, trwyddedu nac yn masnachu unrhyw wybodaeth bersonol i eraill.
6. Pa fath o glipiau a gynhwysir ar y Llwyfan CAP?

Mae’r rhan fwyaf o’r clipiau yn enghreifftiau o sefyllfaoedd go iawn lle roedd yna wasanaeth cyfieithu ar y pryd yn cael ei gynnig.

Rhybudd: mae rhai o’r clipiau’n cynnwys iaith y byddai rhai yn eu hystyried i fod yn anweddus. Yn ogystal, mae rhai o’r clipiau’n trafod materion sydd o natur sensitif. Achosion ffug yw’r clipiau hyn, gyda’r cyfranwyr yn actio rôl. Seilir y senarios ar achosion go iawn y mae cyfieithwyr ar y pryd yn eu hwynebu wrth eu gwaith. Gwneir pob ymdrech i dynnu sylw teilwng at gynnwys tebyg yn y disgrifiad ysgrifenedig o’r clip.

Cedwir y clipiau ar blatfformau trydydd parti, megis Vimeo, Senedd TV, a YouTube. Mae amodau a thelerau defnydd, a polisïau preifatrwydd y gwasanaethau yma yn berthnasol.

7. A allaf rannu’r clipiau hyn gydag eraill?
Y chi fel unigolyn sydd wedi cofrestru a mewngofnodi ar y Llwyfan CAP fel defnyddiwr ac ni chaniateir rhannu’r clipiau hyn gydag eraill sydd heb gofrestru. Gweler ‘Telerau ac Amodau ynghylch Defnyddio’r Gwasanaeth’.
8. Pam fod CCC yn ymddangos wrth ochr ambell glip?
Gwelwch ‘CCC’ wrth ochr rhai o’r clipiau oherwydd mai clipiau a ddarparwyd ar y llwyfan mewn cydweithrediad â Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru, a trydydd partion eraill, yw’r rhain. Enghreifftiau ydynt o glipiau a ddefnyddiwyd yn cyn profion Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru.
9. Sut mae recordio fy nghyfieithiad?

Unwaith y byddwch wedi mewngofnodi, os pwyswch ar glip o’ch dewis bydd y botwm Dangos Recordydd yn ymddangos ar yr ochr dde, ar waelod y sgrin. Pwyswch hwn, a byddwch yn derbyn neges gan eich porwr yn gofyn a ydych chi am roi caniatâd i’r wefan i ddefnyddio meicroffon eich peiriant. Wedi i chi rhoi caniatâd, byddwch yn gallu dechrau cyfieithu’n syth. Mae’r platfform yn gwneud defnydd o feicroffon eich peiriant, lle bod un yn bodoli, felly nid oes angen offer arall arnoch chi i ddefnyddio’r recordydd, fel clustffonau, er enghraifft, ond o bosib byddwch yn medru clywed yn well os defnyddiwch hwy.

Cofiwch arbed y recordiad pan fyddwch wedi gorffen, gan nad yw’n arbed ei hun. Byddwch yn colli unrhyw recordiad sydd ddim yn cael ei harbed, gan mai ar eich peiriant yn lleol y cedwir y recordiad. Ni fydd y Llwyfan CAP yn derbyn unrhyw ddata.

10. Sut mae cadw nodiadau wrth wylio clip?
Mae’r platfform yn eich galluogi i gymryd nodiadau wrth wylio clip, gan ddefnyddio golygydd testun syml. Gallwch arbed eich nodiadau, er y bydd y platfform yn gwneud hyn ar eich rhan yn awtomatig. Mae’r nodiadau wedi eu cysylltu â’ch proffil unigol chi, ac mae modd eu gweld drwy fynd at glip perthnasol; neu gallwch weld rhestr o’ch holl nodiadau wrth glicio ar ‘Fy Nodiadau’ o’r ddewislen ar dop y sgrin.
11. Sut mae cael cymorth, neu cyflwyno ymholiad neu sylw?
Gallwch anfon neges trwy ddefnyddio’r ffurflen gyswllt sydd ar gael ar ‘Cysylltu â’ o’r ddewislen.